Archives de Catégorie: Mihangel Morgan

Llenyddiaeth a Bywyd: Gilles Deleuze into Welsh

Translated by Mihangel Morgan* | also available in pdf

Presentation of the translation

I was pleased to take part in this project as it was a welcome opportunity to spread awareness of Welsh, just a little perhaps, beyond Wales.

I wanted to use the original French text augmented by the English, for my personal better understanding, as a basis for the translation.

The first thing I noticed about Deleuze’s article was that it had a lyrical quality. I wanted to keep this feeling in the Welsh version. I tried to avoid word borrowings from English as much as possible and aimed at a more poetic if rather old-fashioned form of Welsh. Not that there is anything old-fashioned about Deleuze’s style.

Only two tricky points arose. Early in the piece Deleuze talks of the power of the indefinite article : “Mais l’article indéfini n’effectue sa puissance…” Oddly he then goes on to give examples of the definite article : “le, la (‘l’animal que voici…’)”.

In Welsh there is no indefinite article as such. This problem was easily overcome with a note and anyway I have a feeling that Deleuze would have approved of the lack of an indefinite article. The second problem for me was the word délire, ‘delirium’ in the English version. There is no word in Welsh which conveyed what I felt Deleuze meant by this. Gwallgofrwydd is closer in meaning to ‘madness’, dryswch is ‘confusion’. I could simply have used deliriwm but that would’ve transgressed my self-imposed rule for using only an old-fashioned more poetic type of Welsh. So I used a very old word, orohïan which means ‘joy’ or ‘mad with love’, a word from the old poems which I felt was nearer in essence to what Deleuze was saying than any dictionary definition – in fact I preferred it to délire/delirium and believe Deleuze would’ve chosen this word had he known it. That said I’m afraid not many Welsh readers will know this word and for them I should’ve used deliriwm. But if as Deleuze says through quoting Proust : “Chaque écrivain est obligé de faire sa langue…” Then I most certainly did the right thing in using orohïan.

 Mihangel Morgan, translator

Aberystwyth, 2009

 

Llenyddiaeth a Bywyd

Gilles Deleuze, cyfieithiad gan Mihangel Morgan | hefyd ar gael mewn pdf

Yn bendant nid mater o orfodi ffurf (mynegiant) ar y profiad o fyw mo llenydda. Yn hytrach tuedd llenyddiaeth yw fod yn ddiffurf neu’n anorffenedig, fel y dywedodd ac a wnaeth Grombrowicz. Dyfod i fodolaeth yw llenydda, sydd, bob amser heb ei gyflawni, bob amser ar y gweill, ac y tu hwnt i unrhyw brofiad byw. Mae’n broses, hynny yw yn siwrnai sydd yn croesi pob hoedl a phrofiad byw. Ni ellir gwahanu llenydda oddi wrth ddyfod-i-fodolaeth; wrth lenydda deuir yn fenyw, yn anifail neu’n llysieuyn, eir yn foleciwl nes bod yn anghanfyddadwy. Gellir cysylltu’r dyfodiadau hyn mewn cadwyn benodol, fel mewn nofel gan Le Clézio, neu fe allent gydfodoli ar bob haenen gan ddilyn pob porth, trothwy a bro sydd yn ffurfio’r cyfanfyd, fel yng ngwaith grymus Lovecraft. Nid yw’r dyfod-i-fodolaeth hyn yn symud i gyfeiriad arall; ni ddeuir yn wryw, cyn belled â bod Dyn yn ei gyflwyno’i hun fel modd tra-arglwyddiaethol o fynegiant sydd yn mynnu’i orfodi’i hunan ar bob peth, tra bod yn y fenyw, yr anifail neu’r moleciwl bob amser elfen o ffoi sydd yn ei amddifadu o gael ei gyflawni neu’i chyflawni. Cywilydd bod yn ddyn – oes gwell reswm dros lenydda? Hyd yn oed pan taw menyw sydd yn dyfod-i-fodolaeth, rhaid iddi ddyfod-yn-fenyw, ac nid oes a wnelo â’r cyflwr rywbeth y gallai hi’i hawlio. Nid yw dyfod-i-fodolaeth yn meddwl ymffurfio (hunaniaeth, efelychiad, Mimesis) ond darganfod cynefin agosrwydd, anwahanadwyedd neu ddifrawderedd lle na ellir gwahaniaethu rhwng menyw, anifail neu’r moleciwl: heb fod yn amhenodol nac yn gyffredinol, eithr heb ei ragweld a heb iddo fod o’r blaen, wed’i neilltuoli oddi wrth boblogaeth yn hytrach na’i benodi ar ffurf benodol. Gellir sefydlu cynefin agosrwydd gyda rywbeth rywbeth, ar yr amod y creir yr amgylchiadau llenyddol hanfodol, fel y defnyddia André Dhôtel y serenllys. Rhwng y rhywiau, y mathau a’r teyrnasau mae rhywbeth yn symud. Mae dyfod-i-fodolaeth bob amser “rhwng” neu “ymhlith” neu “ymysg”: benyw ymysg benyw neu anifail ymysg eraill. Yn ôl Deleuze ni welir effaith grym yr amhenodol yn Ffrangeg[1] nes i’r term, wrth ddyfod-i-fodolaeth, gael ei ymddihatru o’i nodweddion ffurfiol sy’n peri iddo ddweud le, la (yr anifail hwn…). Pan ddaw Le Clézio yn Indiad y mae bob amser yn Indiad anghyflawn na ŵyr sut i “feithryn ŷd na cherfio canŵ”; mae’n mynd i gynefin agosrwydd yn lle magu’r nodweddion ffurfiol. Ceir yr un peth yn Kafka yn achos y pencampwr nofio na all nofio. Perthyn i lenydda elfen fabolgampaidd, ac eto, yn bell o gyfaddawdu llenyddiaeth a chwaraeon na gwneud llenydda yn gamp olympaidd, gweithredir y fabolgampaeth hon drwy gyfrwng ffoëdigaeth a dirywiad organig: pencampwr ar ei wely, chwedl Michaux. Deuir yn fwy o anifail pan drig yr anifail; ac yn groes i ragfarn yr ysbrydegydd, yr anifail a ŵyr beth yw marw ac mae ganddo amcan neu broffwydoliaeth angau. Cychwyn llenyddiaeth â marwolaeth ballasg yn ôl Lawrence, neu â marwolaeth gwadd yn ôl Kafka: “ein pawennau bach coch yn ymestyn am drugaredd.” Ysgrifennir er mwyn lloi sy’n marw, meddai Moritz. Rhaid i iaith ymgysegru i gyrraedd y llwybrau cefn benywaidd, anifeilaidd a moleciwlaidd hyn ac mae pob llwybr cefn yn ddyfod-farwol. Does dim un llwybr unionsyth mewn pethau nac mewn iaith. Gyda’i gilydd cystrawen yw’r llwybrau cefn anochel sydd yn cael eu creu er mwyn datguddio bywyd pethau.

Nid galw i gof atgofion, teithiau, carwriaethau, profedigaethau, breuddwydion na phroffwydoliaethau mo llenydda. Yr un peth yw pechu drwy ormod o’r dirweddol a gormod o’r dychymyg. Yn y ddau achos ceir y fam-dad dragwyddol, strwythur Oidipaidd wedi’i daflunio ar y dirweddol neu’i fewnlunio i’r dychymygol. Am dad y chwilir ar ddiwedd y daith, fel yng nghnewyllyn y freuddwyd, mewn cysyniad plentynnaidd am lenyddiaeth. Ysgrifennir ar gyfer ein mam-dad. Mae Marthe Robert wedi gyrru’r plentyneiddiad hwn, y seicdreiddiad hwn o lenyddiaeth i’r eithaf gan adael y nofelydd heb ddewis ond y plentyn trwy’r berth neu’r plentyn caffael. Nid arbedir y dyfod-yn-anifail rhag y lleihad Oidipaidd hyn ar ffurf “fy nghath, fy nghi.” Fel y dywed Lawrence, “os camel-lewpart wyf i, a’r Saeson cyffredin sydd yn ysgrifennu amdanaf yn gŵn bach dof dymunol, dyna fe, yr anifeiliaid sydd yn wahanol… Rydych chi’n casáu, wrth reddf, yr anifail wyf i.” Fel rheol gyffredinol mae ffantasïau yn defnyddio’r amhenodol dim ond fel mwgwd dros y personol neu’r genidol, troir: “mae plentyn yn cael ei guro,” yn rhwydd yn, “ces i fy nghuro gan fy nhad.” Ond cymer llenyddiaeth lwybr cyferbyniol gan ganfod o dan y personau tebygol rym amhersonol – nad yw’n gyffredinol eithr yn benodol i’r eithaf: dyn, menyw, anifail, bola, plentyn… Nid y ddau berson cyntaf sydd yn gwasanaethu datganiad llenyddol; cychwyn llenyddiaeth pan enir ynom drydydd person gan ein hymddihatru oddi wrth y gallu i ddweud Myfi (digenedl Blanchot[2]). Afraid dweud, mae’r personau llenyddol yn gwbl unigoledig, heb fod yn amwys nac yn gyffredinol; wedi dweud hynny mae’r nodweddion unigolyddol yn eu dyrchafu tuag at weledigaeth sydd yn eu cludo i’r amhenodol, tebyg i ddyfod-i-fodolaeth sydd yn drech na hwy: Ahab a gweledigaeth Moby Dick. Nid cymeriad mo’r Cybydd yn unig, i’r gwrthwyneb, mae’i nodweddion unigolyddol (caru menyw ifanc ac yn y blaen) yn peri iddo ildio i weledigaeth, fe wêl aur yn y fath fodd fel y caiff ei yrru ar hyd llwybr gwrach nes iddo ennill grym yr amhenodol – un cybydd…, peth aur, rhagor o aur… Ni cheir llenyddiaeth heb chwedloniaeth, ond fel y gwelodd Bergson, nid yw chwedleua, swyddogaeth chwedloniaeth, yn dibynnu ar ddychmygu nac ar daflunio Myfi. Ymestyn, yn hytrach, tuag at y gweledigaethau hyn, gan ei chodi’i hun mor uchel â’r dyfodiadau a’r grymoedd hyn.

Nid ysgrifennir ag atalfeydd. Nid yw’r atalfa neu’r gorffwylledd yn adeg mewn bywyd, eithr yn gyflwr y disgynnir iddo pan rwystrir, pan lesteirir neu pan atelir y broses. Nid proses yw salwch eithr lluddias proses fel yn ‘achos Nietzsche’. Ar ben hynny nid yw’r llenor, fel y cyfryw, yn dost ond meddyg ydyw, ei feddyg ei hun a’r byd. Y byd yw’r casgliad o symptomau’r salwch sydd yn cyfuno â dyn. Ymddengys llenyddiaeth felly fel menter iechyd: nid bod gan y llenor iechyd da o angenrheidrwydd (ceid yr un amwysedd yn hyn o beth ag ym mabolgampaeth) ond mae’n mwynhau iechyd brau diwrthdro sydd yn tarddu o’r hyn a welodd ac a glywodd am bethau rhy fawr iddo ef, rhy gryf iddo, pethau llethol, sydd yn ei lorio, sydd, serch hynny yn ei gynysgaeddu â dyfodiadau na ddeuai i’w ran o gwbl pe bai’i iechyd fel y gneuen. Daw’r llenor yn ôl o’r hyn a welsai ac a glywsai gyda llygaid cochion a chlustiau yn tincial. Pa iechyd fyddai’n ddigonol i ryddhau bywyd ble bynnag y bo’n gaeth mewn dyn neu wedi’i gaethiwo gan ddyn, mewn organiaethau a genera? Dyna iechyd bregus Spinoza, cyhyd ag y parhaodd, yn darganfod tan y diwedd, weledigaeth newydd, yr hon yr oedd yn agored iddi bob amser.

Mae iechyd yn debyg i lenyddiaeth, yn debyg i lenydda, yn dibynnu ar greu pobl sydd yn eisiau. Nod swyddogaeth chwedloniaeth yw dyfeisio poblogaeth. Ni lenyddir â’n hatgofion onid i’w gwneud yn wreiddiau neu’n dynged dorfol i bobl sydd eto i ddod sydd yn dal i fod wedi’u hymsefydlu yn eu bradychiadau a’u gwadiadau. Ceir mewn llenyddiaeth Americanaidd y gallu hynod hyn i gynhyrchu llenorion sy’n gallu adrodd eu hatgofion eu hunain, ond ar ffurf rhai a berthyn i bobl gyfanfydol wedi’u cyfansoddi gan fewnfudwyr o bob gwlad. Cyflwyna Thomas Wolfe, “America i gyd mewn llenyddiaeth cyn belled ag y gellir ei chanfod ym mhrofiad un dyn.” Go brin fod yma bobl wedi’i galw i arglwyddiaethu’r byd. Pobl fechan, dragwyddol fychan, yn gaeth i chwyldro-i-ddod. Hwyrach nad yw’n bodoli ond yng nghelloedd y llenor, pobl trwy’r llwyn, israddol, dan ormes, bob amser ar ddyfod-i-fodolaeth, bob amser yn anghyflawn. Nid yw plentyn trwy’r berth yn dynodi statws teuluol mwyach, eithr cyfeiria at gwrs pob hil. Bwystfil wyf, croenddu o dras israddol hyd tragwyddoldeb. Dyma ddyfod-i-fodolaeth y llenor. Cyflwyna Kafka (dros Ewrop Ganol) a Melville (dros America) llenyddiaeth y presennol fel datganiad torfol dros bobl fechan, neu dros bob pobl fechan na all ddod o hyd i fynegiant ag eithrio drwy gyfrwng y llenor. Er iddi sôn am y gweithredydd unigol bob amser mae llenyddiaeth yn weithredydd torfol er datgan. Orohïan yw llenyddiaeth, ond heb fod yn orohïan fam-dad: ond ni cheir orohïan nad yw’n symud trwy’r pobloedd, hiliau, tylwythau, ac nad yw’n gofidio hanes y bydysawd. Byd-hanesyddol yw pob orohïan, “dadleoliad hiliau a chyfandiroedd.” Orohïan yw llenyddiaeth ac fel y cyfryw chwaraeir ei thynged rhwng dau begwn o orohïan. Afiechyd yw orohïan, yr afiechyd eithaf, bob tro y dyrchefir un hil yr honnir ei bod yn bur ac yn arglwyddiaethol. Ond mae’n fesur o iechyd pan elwir ar yr hil ddidras ormesiedig hon sydd yn ystwyrian yn ddi-baid dan orthrwm, gan wrthsefyll popeth sy’n mathru ac yn carcharu, hil sydd wedi’i hamlinellu a’i hamlygu gan lenyddiaeth fel proses. Yma unwaith yn rhagor cwyd y perygl o hyd y gallai talaith afiach dorri ar draws y broses neu’r dyfod-i-fodolaeth; mae’r un amwysedd yn dod yn ôl at iechyd a mabolgampaeth, y perygl parhaus y gallai orohïan arglwyddiaethol gymysgu ag orhïan ddidras gan sbarduno llenyddiaeth i gyfeiriad ffasgaeth gynrhonllyd, sef yr afiechyd y mae’n ymladd yn ei erbyn, hyd yn oed pan olyga hyn adnabod y ffasgaeth oddi fewn iddi ac ymladd yn erbyn hi’i hun. Nod amgen llenyddiaeth yw rhyddhau dan orohïan y greadigaeth hon gan iechyd neu’r bobl hyn a ddyfeisiwyd, mewn geiriau eraill posibilrwydd bywyd. Llenyddir ar gyfer y bobl hyn sydd eisiau… (ni olyga “ar gyfer” yma gymaint ag “ar ran” eithr “er mwyn”).

Mae hyn yn gwneud effaith llenyddiaeth mewn iaith yn fwy eglur: fel y dywed Proust, mae hi’n olrhain yn gyfewin math o iaith estron, heb fod yn iaith arall nac yn dafodiath wedi’i hailddarganfod, eithr yn iaith ddyfod-yn-amgen, lleihad yr iaith fwyafrifol, orohïan sydd yn ei hysgubo i ffwrdd ar hyd llwybr gwrach lle ceir dihangfa rhag y drefn arglwyddiaethol. Mae Kafka yn peri i’r pencampwr nofio ddweud: rwy’n siarad yr un iaith â chi, eto i gyd nid wyf yn deall yr un gair rydych chi’n ei ddweud. Creu cystrawen neu arddull, dyna beth yw dyfodiad iaith: does dim creu geiriau na bathu geiriau newydd o werth y tu allan i effeithiau’r gystrawen lle y bu iddynt ddatblygu. Felly y mae llenyddiaeth yn cyflwyno dwy agwedd yn barod, drwy gyfrwng cystrawen creir dadelfeniad neu ddinistr y famiaith ond hefyd creir iaith newydd oddi fewn i iaith. “Yr unig ffordd y gellir amddiffyn iaith yw wrth ymosod arni… Mae’n ddyletswydd ar bob llenor i greu’i iaith ei hun…” (Proust) Meddiennir iaith fe ymddengys gan orohïan, sydd yn torri’i chywsi’i hun. Parthed y drydedd agwedd, mae’n tarddu o’r ffaith na ellir cerfio iaith estron mewn un iaith heb i iaith yn ei chrynswth gael ei dymchwelyd neu’i chario i ryw eithaf, i’r tu allan neu’r wyneb cefn sydd yn cynnwys Gweledigaethau a Gwrandawiadau nad ydynt yn perthyn i unrhyw iaith. Nid ffantasïau mo’r gweledigaethau hyn eithr yn Syniadau go iawn y mae’r llenor yn eu gweld a’u clywed yn lleoedd gweigion iaith, yn ystod egwyliau iaith. Nid rhwystredigaethau yn y broses mo’r rhain ond toriadau sydd yn rhan ohoni, fel tragwyddoldeb a ddatgelir wrth ddyfod-i-fod, tirlun nad yw’n ymddangos heb symud. Nid y tu allan i iaith mohonynt, ond gwedd allanol iaith ydynt. Y llenor fel gweledydd a gwrandäwr, nod amgen llenyddiaeth: byw bywyd oddi fewn i iaith, dyma beth yw Syniadau.

Gellir gweld y tair agwedd hyn sydd yn symud drwy’r amser yng ngwaith Artaud: llifeiriant llythrennau yn ymddatodiad y famiaith (R, T…); eu cynnwys mewn cystrawen newydd mewn enwau newydd â chanddynt arwyddocâd cystrawennol, crewyr iaith (“eTReTé”); anadleiriau, yn y pen-draw, yr eithaf digystrawen y tuedda pob iaith tuag ato. Hyd yn oed yn Céline, ni allem beidio â sôn amdano, mor egr yw’r teimlad: Taith i Ben Draw’r Nos neu ymddatodiad y famiaith; Angau ar Goel a’i chystrawen newydd fel iaith o fewn iaith; Band Guignol a’i ebychiadau wedi’u hatal fel eithaf iaith, gweledigaethau a soniarau ffrwydrol. Efallai, er mwyn llenydda, rhaid i’r famiath fod yn wrthun, ond dim ond yn y fath fodd fel y gall greadigaeth gystrawennol ganfod ynddi ryw iaith estron, fel bod modd i iaith yn ei chyfanrwydd allu dangos ei gwedd allanol, y tu hwnt i bob cystrawen. Weithiau byddem yn talu teyrnged i lenorion, ond maen nhw’n yn gwybod yn iawn eu bod yn bell o gyrraedd yr eithaf y maen nhw wedi’i osod ar eu cyfer eu hunain, sydd yn llithro o’u gafael o hyd, a’u bod yn bell o gyflawni’u dyfod-i-fodolaeth. Mae bod yn llenor yn beth amgen na dod yn llenor. i’r sawl sy’n gofyn beth yw llenydda etyb Virginia Woolf: â phwy ydych chi’n siarad am lenydda? Nid yw’r llenor yn siarad amdano, mae ganddo bethau eraill i wneud.

Wrth feddwl am y meini prawf hyn fe welir ymhlith pob un sydd yn gwneud llyfrau ag amcan llenyddol, hyd yn oed ymhlith y gwallgofiaid, prin yw’r rhai a all honni bod yn llenorion.


* Mihangel Morgan is a Welsh author and a professor of literature at the Aberystwyth University.

Fersiwn gwreiddiol: « La littérature et la vie », in Critique et clinique, Paris: Éditions de Minuit, 1993.

[1] Er ei fod yn rhoi enghreifftiau o’r fannod yn hytrach na’r amhenodol. Ni cheir yr amhenodol yn y Gymraeg dim ond y fannod.

[2] Ni cheir digenedl yn y Gymraeg.

Poster un commentaire

Classé dans Gilles Deleuze, Mihangel Morgan